Adroddiad drafft Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

           

CLA(4)-01-15

 

CLA477 - Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 Mae'r gwelliannau'n-

(a)      gwneud mân newidiadau i Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) ("y Cynllun") a nodir yn yr Atodlen honno;

(b)      diwygio'r cynllun i ddarparu'r personau hynny sy'n cael eu cyflogi yng Nghymru fel diffoddwyr tân wrth gefn yn ystod y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2000 a 5 Ebrill 2006 gyda mynediad at gynllun pensiwn ar gyfer y cyfnod hwnnw;

(c)      cyflwyno darpariaethau newydd.

 

GweithdrefnNegyddol

 

Materion technegol: craffu

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

 

1.                Nid yw paragraff (b) o'r diffiniad 'diffoddwr tân gwirfoddol' ar dudalen 12 yn darllen yn gywir gan ei fod yn cyfeirio at "ddiffodd tân (pa un ai yn lle diffodd tân, neu’n ychwanegol at ei ddiffodd)."  Mae'n ymddangos fel pe dylai geiriau ychwanegol, fel y rhai a gynhwysir yn y diffiniad o 'ddiffoddwr tân wrth gefn' ar y dudalen ganlynol, fod wedi cael eu cynnwys.

[Rheol Sefydlog 21.2(vi) – gwaith drafftio diffygiol.]

 

Craffu ar y Rhinweddau

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Rhagfyr 2014

 

Ymateb y Llywodraeth

Derbynnir bod gwall wedi digwydd fel y disgrifir yn yr Adroddiad. Byddwn yn tynnu sylw’r awdurdodau tân ac achub a chynrychiolwyr y diffoddwyr tân at hyn ac yn cywiro’r gorchymyn nesaf yn diwygio’r cynllun pensiwn fydd ar gael.